Mae hen wlad fy nhadau yn annwyl i mi Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri Ei gwrol ryfelwyr, gwladgarwyr tra mâd Tros ryddid gollasant eu gwaed Gwlad! Gwlad! Pleidiol wyf i'm gwlad Tra môr yn fur i'r bur hoff bau O bydded i'r hen iaith barhau Hen Gymru fynyddig, paradwys y bardd Pob dyffryn, pob clogwyn, i'm golwg sydd hardd Trwy deimlad gwladgarol, mor swynol yw si Ei nentydd, afonydd, i fi Gwlad! Gwlad! Pleidiol wyf i'm gwlad Tra môr yn fur i'r bur hoff bau O bydded i'r hen iaith barhau Os treisiodd y gelyn fy ngwlad tan ei droed Mae hen iaith y Cymry mor fyw ag erioed Ni luddiwyd yr awen gan erchyll law brad Na thelyn berseiniol fy ngwlad Gwlad! Gwlad! Pleidiol wyf i'm gwlad Tra môr yn fur i'r bur hoff bau O bydded i'r hen iaith barhau Gwlad! Gwlad! Pleidiol wyf i'm gwlad Tra môr yn fur i'r bur hoff bau O bydded i'r hen iaith barhau