Kishore Kumar Hits

Stuart Burrows - Rhyfelgyrch Gwýr Harlech (Men of Harlech) текст песни

Исполнитель: Stuart Burrows

альбом: Songs of Wales


Wele goelcerth wen yn fflamio
A thafodau tân yn bloeddio
Ar i'r dewrion ddod i daro
Unwaith eto'n un
Gan fanllefau tywysogion
Llais gelynion, trwst arfogion
A charlamiad y marchogion
Craig ar graig a gryn
Arfon byth ni orfydd
Cenir yn dragywydd
Cymru fydd fel Cymru fu
Yn glodus ym mysg gwledydd
Yng ngwyn oleuni'r goelcerth acw
Tros wefusau Cymro'n marw
Annibyniaeth sydd yn galw
Am ei dewraf ddyn
Ni chaiff gelyn ladd ac ymlid
Harlech! Harlech! cwyd i'w herlid
Y mae Rhoddwr mawr ein Rhyddid
Yn rhoi nerth i ni
Wele Gymru a'i byddinoedd
Yn ymdywallt o'r mynyddoedd!
Rhuthrant fel rhaeadrau dyfroedd
Llamant fel y lli!
Llwyddiant i'n marchogion
Rwystro gledd yr estron!
Gwybod yn ei galon gaiff
Fel bratha cleddyf Brython
Y cledd yn erbyn cledd a chwery
Dur yn erbyn dur a dery
Wele faner Gwalia'i fyny
Rhyddid aiff â hi!

Поcмотреть все песни артиста

Другие альбомы исполнителя

Похожие исполнители