AROS AM BYTH (Waiting Forever) Dyw'r ddysgl byth yn wastad, ac mae'r sêr sydd yn y gofod Yn trio dweud fod dagrau yn dy lygaid Mae cyfarch â hwyl fawr Yn rhy gyfarwydd nawr A ti bach rhy bell i fi ofyn os ni'n iawn Wyt ti'n mynd i aros? Wyt ti'n mynd i aros am byth Gyda fi Darllen neges ar y ffordd Un nos cyn mynd i ffwrdd A chofio y tro cyntaf i ni gwrdd Oes gyda ti yr ateb Pan fi'n teimlo'n ddi-gyfeiriad Neu fap, i ddangos ble mae'r ffordd Wyt ti'n mynd i aros? Wyt ti'n mynd i aros am byth Gyda fi