Môr Du (Black Sea) Mae'n teimlo Fel ystrydeb Rhywbeth sy' na Yn yr is ymwybod, Sydd yn gofyn, Wyt ti'n esgus Wyt ti'n esgus Bod yn hapus Dere gyda fi A gadael Sŵn y ddinas ar ôl a siarad Yn ein hen acenion Mor ddwfn Yw'r cefnfor Sy'n ein rhannu A phob tristwch Sy'n diflannu Môr Du, Mae fel colli rhan o fi Falle bo fi'n Dychmygu Bo ti union Fel tro diwethaf I fi weld ti, Ym mhellafion Fy atgofion Mae rhywle O'n i'n meddwl Bo fi'n nabod Dere gyda fi A gadael sŵn y ddinas ar ôl A siarad yn ein hen acenion Mor ddwfn Yw'r cefnfor Sy'n ein rhannu A phob tristwch Sy'n diflannu Môr Du, Mae fel colli rhan o fi