Mae'n cyrraedd ei swyddfa yn gynnar bob bore Yn cario ei frîffces ecsetiwtif bach "Bore da, Mistar Eliot" a "Diolch yn fawr Rachel A chofiwch, dim siwgwr, trio cadw yn iach" Mae'n eistedd fel sowldiwr o flaen ei brosesydd A phob pin a phapur a ffeil yn eu lle Ac am bump mae o'n ol tu ol i lyw'r BMW Yn gyrru am adre ar gyrion y dre Bob nos wrth droi'r goriad mae'n gweiddi, "dwi adre Sut ddiwrnod ges ti a be sy 'na i dde?" Ac ar garreg yr aelwyd mae'i slipars yn c'nesu Ac arogl cartref yn llenwi y lle Ond ar nos Wenar daw adre a hongian ei siwt A newid i'r hen denims cul Hongian modrwyau trwy'r tyllau'n ei glustiau A chuddio y rasal tan yn hwyr ar nos Sul A dyna chi fo, yn rebal wicend go iawn Oes stic-on tatw a'i dun baco herbal yn llawn Yn rebal wicend o'i gorun i'w draed Ac ysbryd gwrthryfel yn berwi 'mhob diferyn o'i waed Ac ar bnawn Sadwrn mewn denims a lledar Crys T heb lewys a'i wallt o yn saim Mae'n mynd draw i'r dafarn i siarad a'r rocars I yfed Jack Daniels yn lle lagyr a laim Ac ar ol ysfed digon mae'r gitar yn dod allan Ac mae o'n canu y blws a thrio swnio yn ddu Son am drallodion genod ysgol yn disgwyl Teimlo fel deryn ac ymddwyn fel ci A dyna chi fo, yn rebal wicend go iawn Oes stic-on tatw a'i dun baco herbal yn llawn Yn rebal wicend o'i gorun i'w draed Ac ysbryd gwrthryfel yn berwi 'mhob diferyn o'i waed Amser cinio dydd Sul mae o'n ol yn y dafarn Yn yfed ei hochor o ddeuddeg tan dri Yn siarad yn ddwfn am genod a wisgi A phob ystum o'i eiddo yn dweud 'ylwch fi' Ond gyda'r nos, cyn gwylio Hel Straeon Mae o ar goll ym mybls y bath, digon siwr Mae'r metamorffosis drosodd am wythnos fach arall Pan mae'r rebal yn mynd lawr y plyg gyda'r dwr A dyna chi fo, yn rebal wicend go iawn Oes stic-on tatw a'i dun baco herbal yn llawn Yn rebal wicend o'i gorun i'w draed Ac ysbryd gwrthryfel yn berwi 'mhob diferyn o'i waed Ac ar fore dydd Llun mae o'n ol yn y swyddfa A'r cris yn ei drowses yn finiog fel bled Mae'r rebal wicend yn edrych o'i gwmpas Ac yn sylweddoli ei fod oyn mêd