Kishore Kumar Hits

Bryn Fôn - Coedwig Ar Dan текст песни

Исполнитель: Bryn Fôn

альбом: Y Goreuon (1994-2005)


Ma’ coedwig ar dan wrth yn ffin yn Guatemala,
A disgyn mae’r ser ar y ffordd i Choroni,
Goleuadau’r gogledd yn pefrio yng Nghaeredin
A titha’ ar fy meddwl i.
Pan mae bywyd yn anodd a finna’n rhan o’r syrcas,
Teimlo’r nos yn cau amdana’ fi.
Ond er dy fod ymhell i ffwrdd
Dwi’n teimlo gwres dy gariad
Ymhell dros y moroedd, ymhell dros y lli.
Mae’r cymylau yn ddu uwchben Santa Maria,
Swn y seiren yn groch ar y stryd yn Bangor, Maine.
Clycha’n canu heno dros y muriau llwyd yn Bandon
A dwi’n hiraethu am dy wen.
Pan mae bywyd yn anodd a finna’n rhan o’r syrcas,
Teimlo’r nos yn cau amdana’ fi.
Ond er dy fod ymhell i ffwrdd
Dwi’n teimlo gwres dy gariad
Ymhell dros y moroedd, ymhell dros y lli.
Mae’r lleuad yn llawn dros y tywod yn Lamorna
Bwrw glaw yn Vienna, mellt a thrannau yn Tralee.
Mae’n hanner nos yn Chichicastenango
A titha’ ar fy meddwl i.
Pan mae bywyd yn anodd a finna’n rhan o’r syrcas,
Teimlo’r nos yn cau amdana’ fi.
Ond er dy fod ymhell i ffwrdd
Dwi’n teimlo gwres dy gariad
Ymhell dros y moroedd, ymhell dros y lli.

Поcмотреть все песни артиста

Другие альбомы исполнителя

Похожие исполнители

Celt

Исполнитель