Pan ddaw lleisiau'r nos i 'mhoeni, A sibrwd gwag y gwynt i'm hoeri, Ti sy'n lliwio'r blode A mantell gwlith y bore; Tyrd, Ysbryd y Nos. A'r tonnau'n llusgo'r cregyn arian I siffrwd yn ei lifrai sidan, Mi wn y byddi yno Yn barod i'm cysuro; Tyrd, Ysbryd y Nos. Ysbryd y Nos, tyrd yma'n awr, Gwasgara'r ofnau cyn daw'r wawr; Diffodd y t'wyllwch, tyrd a'r dydd: Gad im ddod o'r nos yn rhydd. Pleth dy wallt mewn rhuban euraidd Yn gynnes yn dy olau peraidd, A bysedd brau y barrug Yn deffro hun y cerrig; Tyrd, Ysbryd y Nos. Ysbryd y Nos, rho d'olau mwyn, Ysbryd y Nos, rho im dy swyn, Ysbryd y Nos, fel angel y dydd, Ysbryd y Nos, enaid y pridd. Ac yno yn y dyffryn tawel Mi glywaf gân yn sŵn yr awel A neges hud y geirie Yn hedfan dros y brynie; Tyrd, Ysbryd y Nos. Ysbryd y Nos, tyrd yma'n awr, Gwasgara'r ofnau cyn daw'r wawr; Diffodd y t'wyllwch, tyrd a'r dydd: Gad im ddod, gad im ddod yn rhydd.