Mae'r ysbryd yn chwarae yn y nos, yn y nos A'r gannwyll yn llosgi yn y gornel Dwi yma hefo calon sydd wedi agor, sydd wedi agor A dagrau yn llifo fel yr afon Mae fy nhad ar goll yn y nos, yn y nos A'r gannwyll yn llosgi yn y gornel Dwi'n clywed o'n siarad mewn iaith arall, mewn iaith arall Dwi'n gwrando ond fedrai ddim deall Mae'r pellter yn rhy bell i neidio, i neidio Mae'r pellter yn rhy bell i neidio, i neidio Mae'r pellter yn rhy bell i neidio, i neidio Mae'r pellter yn rhy bell i neidio, i neidio Dwi'n galw dy enw at y lleuad, at y lleuad Ac adrodd hen weddi at y ddaear Arogli'r glaw yn disgyn ar y llwch, ar y llwch A ceisio gweld amlinell yn y mwg Mae'r pellter yn rhy bell i neidio, i neidio Mae'r pellter yn rhy bell i neidio, i neidio Mae'r pellter yn rhy bell i neidio, i neidio Mae'r pellter yn rhy bell i neidio, i neidio Rho un tro i mi Rho un tro i mi Rho un tro i mi Rho un tro i mi