Rown i'n rhodio glan môr heli Gwelwn wylan o liw'r lili Ar lan y traeth yn trwsio'i godrau Wedi'i guro i gyd gan donnau Tra la la la la Bant a'r crudd, a bant a'r gogledd Bant a'r teulwur, sglogi nofer Bant a'r hwy i wlad y Saeson Morwr bach ac ar fy nghalon Tra la la la la Ar y ffordd wrth fynd i 'Werddon Mi ddymunwn weld dwy ffynnon Un o win ac un o glared I'r morwr bach gael torri'i syched Tra la la la la Llwyr gwae fe a llwyr gwae finnau Yr awr erioed y lluniwyd llongau A chodi arnynt hwyliau gwynion I fynd â nghariad bach tua 'Werddon Tra la la la la