Ar lân hen afon Ddyfrdwy ddofn Eisteddai glân fi yn unig Gan ddistaw sibrwd wrth'i hun "Gadawyd fi yn unig Heb gâr na chyfaill o fewn y byd Na chartref chwaith fynd iddo Drws tŷ fy nhad sydd wedi'i gloi Rwy'n wrthodedig heno" Mae bys gwaradwydd ar fy ôl Yn nodi fy ngwen didau A llanw 'mywyd wedi ei droi A'i gladdu dan y tonnau Ar allor chwant aberthwyd fi Do! collais fy morwyndod A dyna'r achos pa'm yr wyf Fi heno wedi 'ngwrthod "Ti frithyll bach, sy'n chwareu'n llon Yn nyfroedd glân yr afon Mae gennyt ti gyfeillion fyrdd A noddfa rhag gelynion Cei fyw a marw o'dan y dwr Heb undyn dy adnabod O! na chawn innau fel tydi Gael marw, a dyna ddarfod " Y bore trannoeth cafwyd hi Yn nyfroedd glan yr afon A darn o bapur yn ei llaw Ac arno'r ymadroddion "Gwnewch imi fedd mewn unig fan Na chodwch faen na chofnod I nodi'r fan lle gorwedd llwch Yr Eneth ga'dd ei gwrthod"