Mab wy'n chwennych yn fy chwen I ganu pennill mwyn o'm pen Ac os cerwch chwi hawddgarwch Byth na syniwch roi i mi sen Nôl fy neall canu wnaf Glyd eiriau'n rhwydd o glod i'r Haf Wrth ei weled mor hawddgarol Ei liw ar led, bro euraidd braf Dolydd a gyweirglodd-dir clau Eu gweld yn rhywdd a gaiff pob rhai Tan fargodion glennydd gloywon Mor hyfrydlon meillion Mai Llysiau, llafur, graendir, grawn Ffrwyth ar goedydd bronwydd brawn Rhos a lili, lanwych lwyni A fyddant felly'n llenwi'n llawn Bydd yr adar yn y gwydd Gydag agor tor y dydd Yn ei roeso gan ymbincio Ceir eu gweled wrth rodio'n rhydd Fe ddaw'r gog a'r ceiliog du Y fronfraith gron a'i chywion cu A Philomela i'r fro hyfryda A'u llais llawena, llona llu