'Rwy'n caru merch o blwyf Penderyn, ac yn ei chanlyn ers lawer dydd; Ni allwn garu ag un ferch arall, er pan welais 'run gron ei grudd. Mae hi'n ddigon hawdd ei gweled, er nad yw ond dyrnaid fach; Pan elo i draw i rodio'r caeau, fy 'nghalon glaf hi wna yn iach. Pan o'wn i'n myned ar ryw fore yn hollol ddiflin tua'm gwaith, Mi glywn aderyn ar y brigyn yn tiwnio'n ddiwyd ac yn faith, Ac yn d'wedyd wrthyf innau, "Mae'r ferch wyt ti'n ei charu'n driw Yn martsio'i chorff y bore fory tua rhyw fab arall, os bydd hi byw." 'Rwy'n myned heno, dyn am helpo, i ganu ffarwel i'r seren syw; A dyna waith i'r clochydd fory fydd torri 'medd o dan yr yw! A than fy enw'n 'sgrifenedig ar y tomb wrth fôn y pren, Fy mod i'n isel iawn yn gorwedd yng ngwaelod bedd o gariad Gwen.