Kishore Kumar Hits

Cor Meibion Pendyrus Male Voice Choir - Myfanwy текст песни

Исполнитель: Cor Meibion Pendyrus Male Voice Choir

альбом: Pererinion (Detholiad O Waith Joseph Parry An Anthology Of His Music)


Paham mae dicter, O Myfanwy,
Yn llenwi'th lygaid duon ddi?
A'th ruddiau tirion, O Myfanwy,
Heb wrido wrth fy ngweled i?
Pa le mae'r wen oedd ar dy wefus
Fu'n cynnau 'nghariad ffyddlon ffol?
Pa le mae sain dy eiriau melys,
Fu'n denu'n nghalon ar dy Ùl?
Pa beth a wneuthym, O Myfanwy,
I haeddu gwg dy ddwyrudd hardd?
Ai chwarae oeddit, O Myfanwy
A thanau euraidd serch dy fardd?
Wyt eiddo im drwy gywir amod
Ai gormod cadw'th air i mi?
Ni cheisiaf fyth mo'th law, Myfanwy,
Heb gael dy galon gyda hi.
Myfanwy boed yr holl o'th fywyd
Dan heulwen disglair canol dydd.
A boed i rosyn gwridog ienctid
I ddawnsio ganmlwydd ar dy rudd.
Aug hofiar oll o'th add ewidion
A wnest i rywun, 'ngeneth ddel,
A rho dy law, Myfanwy dirion
I ddim ond dweud y gair "Ffarwel".

Поcмотреть все песни артиста

Другие альбомы исполнителя

Похожие исполнители