Dwy law yn erfyn a mi ges fy hun ar lannau'r afon Nil, Paid edrych lan a phaid edrych i lawr, O'n i ar goll ac o'n i braidd ar ddi-hun. Galwodd rhywun am ambiwlans, clywes i'r rhybydd yn uchel a'n glir, A phlymiais i mewn i'r dwr yn ddwfn ac anelu am y ffin. Dyw e ddim mor anodd i arnofio gyda'r llif Pan wyt ti ynghanol breuddwydion haf neu canol dydd. Mae angen llong ar Gapten er mewn morio drwy dywydd gwael, Mae angen awel ar longwr er mwyn hwylio o lan i lan. Mae blodau'r Delta'n tyfi'n hadau mae'r gwair yn tyfu'n wyllt Ond ei di fyth i'r nefoedd os arhosi D'in rhy hir os mynni di fyw am byth. Dyw e ddim mor anodd i arnofio gyda'r llif Pan wyt ti ynghanol breuddwydion haf neu canol dydd. Mae angen rhoi'r ffidil yn y to, gwnest dy wely, meddai'r Capten. Ond allai ddim gwneud hyn a ni alla'i Wneud y llall os dwi yn gaeth yn Argae Aswann. Paid edrych lan a phaid edrych i lawr, Paid edrych lan a phaid edrych i lawr, Paid edrych lan a phaid edrych i lawr, Paid edrych lan a phaid edrych i lawr, Paid edrych lan a phaid edrych i lawr, Paid gwneud hwna a phaid gwneud y llall, Paid gwneud hwna a phaid gwneud y llall.