Blewyn glas ar lan dŵr Teifi A dwyllodd lawer buwch i foddi. Llawer merch a 'nhwyllodd inne O'r union ffyrdd i'r anial lwybre. Rown i'n rhodio rhyw foreddydd Rhwng y glaswellt a'r mân goedydd, Cwrddyd wnes i â hen gymydog, Un o'r bradwyr dau-wynebog. Cynta' peth ofynnais iddo — Sut mae caru merch a'i chario? "Rho di heibio'i chwmni flwyddyn, Daw i'th garu bob yn ronyn." Lliw'r heulwen ar y bronydd, lliw'r lili ar y bryn, Pan elwi oddi yma, f'anwylyd cofia hyn: Dy lun, dy law a'th lân ymddygiad, ferch, A'th anian bert addfwynol sydd wedi tynnu'm serch. Fe nes gyngor yr hen ffŵl hynny; Am flwyddyn rhois i heibio'I chwmni Es yn ôl ymhen y flwyddyn Gan feddwl cael ei chwmni wedyn. Y ferch ateb'sai'n hawdd ei deall — "Ffaelaist ti â chael neb arall. Cer' di 'mhell, na ddea'n agos. Rwy'n priodi cyn penwythnos." Hawdd iawn yw 'nabod sgwarnog, yn rhedeg ar ei ffrwst; Hawdd iawn yw nabod petris, pan godant ar eu trwst; Y dderwen fawr, ymysg y meillion mân. Gwae fi na bai mor hawsed, i 'nabod merch fach lân. Mae'n rhaid i'r felin falu pan gaffo ati ddŵr; Mae'n rhaid i'r gof i weithio tra paro'r haearn yn frwd; Mae'n rhaid i'r ddafad garu'r oen bach tra byddo'n wan; Mae'n rhaid i minnau gymryd y sawl sydd ar fy rhan.