Does na'm byd yn y byd o bwys Mai'n dawel braf yn nghanol y storm Dwi ddim am boeni am ddryswch llwyr Dim fi sydd wrth y llyw Mae'r tarannau yn bloeddio'n y nen Fel rhuo llewod yn bell uwchben Mae Morus y gwynt ac Ifan y glaw Yn chwil ar y gwasgedd isel Mae'r byd yn ddychrynllyd ar hyn o bryd Ond mae'r helynt 'ma'n gysur o fy ngwely clyd Sgenai'm mymryn o bryder; mewn cysur mae hyder Dwi'n gyfarwydd 'fo'r hunllef o hyd Mae'r newydd yn hen erbyn hyn Neith arwyr flodeuo ymysg y chwyn Mae'r gwynt a'r glaw yn siwr o ddod yn pen draw Ond mae'r haul yn anorfod hefyd Does na'm byd yn y byd o bwys Mai'n dawel braf yn nghanol y storm Dwi ddim am boeni am ddryswch llwyr Dim fi sydd wrth y llyw Anghydfod y tonnau sy'n bygwth Ceffylau mawr gwyn ar garlam rhwth Ond mae 'na ddigon o dîr rhwng y llanw a fi Does na'm galw am gynnwrf na stŵr Cau dy lygaid yn dynn A gad dy feddylia suddo'n ddyfn Ma'r glaw ar y gwydr yn siffrwd o gysur Dwi'n gyfarwydd fo'r freuddwyd o hyd Mae'r newydd yn hen erbyn hyn Neith arwyr flodeuo ymysg y chwyn Mae'r gwynt a'r glaw yn siwr o ddod yn pen draw Ond mae'r haul yn anorfod hefyd