Wel bachgen ifanc ydwyf bron un ar hugain oed Os ydwi'n llac fy ngafael dwi'n 'steady' ar fy nhroed Dwi fel yr hen bysgotwr yn rhodio glannau'r Llyn Yn gweled pysgod lawer ond yn methu dal yr un Wel bachgen ifanc ydwyf yn sychedu am rhyw serch Ac am flasus sudd y barlys ac am wefys melys merch Ond er am holl bleserau tymor byr tu ôl y bar Mae f'enaid dal yn chwilio am galon allaf gar Wel bachgen ifanc ydwyf sydd yn ddiwyd ar y ddôl Yn bugeilio fy nheimladau a fy nymuniadau ffôl Dwi'n treulio hyd fy nyddiau yn hadu ar y rhiw Ond planu hadyn cariad ni fedraf yn fy myw