Dydd da fo i Wen lliw'r lili, Mi'th welais heddiw'n wisgi Yr orau rwy'n ei charu O ferched yr holl fyd Pa le mae'r addewidion A'r cariad gynt fu rhyngom? Mynega im, liw'r hinon, Fy seren teg ei phryd Mae'r gog yn bêr leferydd A'i miwsig yn y maesydd A gwenu y mae'r gweunydd Dan dywydd hirddydd haf A'r gerdd yng nghaerau gwyrddion A'r tir gan fwyeilch tirion Llawenydd, pynciau llawnion, Y dôn hyfrydlon braf Felly loyw Wen lliw'r lili Tyrd ataf eto i garu Cyn i 'nghalon dirion dorri Yn deilchion yn dy law, Mae'th swnol lais yn treiddio Mor ddedwydd i 'mreuddwydion O rho i mi, liw'r hinon, Dy gariad di-ben-draw.