Ym mynwes y ddaear y cysgodd y gwir Gorwedd eu cyrff ar y bridd y tir Collwyd y dydd rhwng y bryniau hyn Sychodd y gwaed ar yr eira gwyn Gwaed y gwir ar yr eira gwyn Gwaed ar yr eira gwyn Oer yw'r cwm, diffoddodd y tan Ciliodd yr adar, tewodd eu can Marw breuddwyd oesol fan hyn Dyna yw'r gwaed ar yr eira gwyn Gwaed y gwir ar yr eira gwyn Gwaed ar yr eira gwyn Ni welir un croes am na thorrwyd run bedd Gadawyd y cyrff i orwedd mewn hedd Gadawyd y cyfan i gysgu fel hyn Tra'r erys y gwaed ar yr eira gwyn Gwaed y gwir ar yr eira gwyn Gwaed ar yr eira gwyn Gwaed y gwir ar yr eira gwyn Gwaed ar yr eira gwyn