Wyt ti'n cofio braf oedd nosweithiau'r haf Pan oedda ni yn chwarae yng ngolau'r stryd Yr blant i'r byd, heb unrhyw gyfrifoldeb Cyn i lais prysurdeb ddod â'i gŵyn, i dy swyno A'i hud, i 'neud chdi deimlo'n gaeth, ond yn waeth A wnaeth i chdi anghofio am dy ffydd I dorri'n rhydd, rhyw ddydd yn dy ddyfodol 'Di'r amodau sy'n ddelfrydol byth am ddod Dos yn dy flaen, yn groes i'r graen Ti 'di bod ffordd hyn o'r blaen Drwy y drysau sy'n dy feddwl dy hun Dos yn y nos i weld y sêr Sy'n treiddio'r asgwrn at y mêr At yr heddwch sydd yng nghanol pob un Ar yr heddwch sy'n dy ganol di Dyro dy sgidia 'mlaen, fel o'r blaen Dos i weld y dail yng ngola'r haul Mi glywi'r floedd sy'n galw o'r mynyddoedd A'r sibrwd sy'n dy ddenu at y môr Dos yn dy flaen, yn groes i'r graen Ti 'di bod ffordd hyn o'r blaen Drwy y drysau sy'n dy feddwl dy hun Dos yn y nos i weld y sêr Sy'n treiddio'r asgwrn at y mêr At yr heddwch sydd yng nghanol pob un Ar yr heddwch sy'n dy ganol di A chwilia'r llawr i gasglu pren Tra mae'r nefoedd uwch dy ben Cynna dân bach i g'nesu dy hun Gan gadw'th draed ar y llawr A dy feddwl ar yn awr A dy fryd ar un byd yn gytûn Dos yn dy flaen, yn groes i'r graen Ti 'di bod ffordd hyn o'r blaen Drwy y drysau sy'n dy feddwl dy hun Dos yn y nos i weld y sêr Sy'n treiddio'r asgwrn at y mêr At yr heddwch sydd yng nghanol pob un Ar yr heddwch sy'n dy ganol di