Ma' waliau'r crud yn dymchwel, Ma' dy wen yn cuddio mwy. Poteli gwag o nghwmpas Yn gofyn am y pwy... Mae'r ddinas fawr yn galw, Y lleisiau ar y gwynt. Mewn moment eiliad tawel, A'r chwalu yw'r uchafbwynt. Ond be sy na i ddod? Anwybyddwch goleuadau Llundain, Ma' na pethe gwell i ddod. Cyfrinachau sy'n fflamio Llundain, Dwi'n gwybod, dwi 'di bod. Ffenestri gwag sy'n lliwio'r cynfas, Tywyllwch cysglyd, tywyllwch sydd Dan y ddaear ar y traciau Yn 'y myd bach tawel, cudd. Ond be sy na i ddod? Anwybyddwch goleuadau Llundain, Ma' na pethe gwell i ddod. Cyfrinachau sy'n fflamio Llundain, Dwi'n gwybod, dwi 'di bod. Anwybyddwch goleuadau Llundain, Ma' na pethe gwell i ddod. Cyfrinachau sy'n fflamio Llundain, Dwi'n gwybod, dwi 'di bod, Dwi'n gwybod, dwi 'di bod.