Kishore Kumar Hits

Gwilym - Fyny Ac Yn Ôl текст песни

Исполнитель: Gwilym

альбом: Sugno Gola


Swnian, hedfan, mae'r aer yn dylanwadu
Disgyn am ddyddiau, a mae'r gwydr yn dechrau malu
So chwara dy gêm yn gyfrinachol
Agor dy wên i blesio'r bobl
A dwi'n dechrau laru
Teimlada hen sy'n mân ailadrodd
Hen alawon sydd yn gwahodd
A dwi'n dechrau canu
Dwi'n mynd a dod
I fyny ac yn ôl
Dilyn y don
Ti fyny ac yn ôl
Actorion bodlon, mae'r llwyfan wedi'w lygru
Y cyfarwydd sy'n ddiarth, a mae'r cwmni wedi'w bydru
Agorwch y llen, mae'r sioe yn cychwyn
Gwyliwch y golau'n creu cyd-destun
Mae o'n dechrau dallu
Maen nhw'n tynnu llinella yn eu coffi
Seti gwag sy wedi'w nodi
Maen nhw'n dechrau canu
Dwi'n mynd a dod
I fyny ac yn ôl
Dilyn y don
Ti fyny ac yn ôl
Ti fyny ac yn ôl, cogio actio'n hollol ffôl
Geiriau sgript yn mynnu sylw
Pwysau'r uchder gwneud chdi'n welw
O, ti fyny ac yn ôl, cogio actio'n hollol ffôl
Geiriau'r sgript yn mynnu sylw
Pwysau'r uchder gwneud chdi'n welw
Dwi'n mynd a dod
I fyny ac yn ôl
Dilyn y don
Ti fyny ac yn ôl
Ti fyny ac yn ôl, cogio actio'n hollol ffôl
Geiriau sgript yn mynnu sylw
Pwysau'r uchder gwneud chdi'n welw
O, ti fyny ac yn ôl, cogio actio'n hollol ffôl
Geiriau sgript yn mynnu sylw
Pwysau'r uchder gwneud chdi'n welw

Поcмотреть все песни артиста

Другие альбомы исполнителя

Похожие исполнители

Alffa

Исполнитель